Cyllid & Thollau EM

Debyd Uniongyrchol

Eich banc/cymdeithas adeiladu: Gall Cyllid a Thollau EM (CThEM) gasglu taliadau drwy Ddebyd Uniongyrchol (DD) dim ond os yw eich banc/cymdeithas adeiladu yn derbyn y Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol ac mae'r cyfrif yn gyfrif sterling a gofrestrwyd yn y DU. Dim ond ar gyfer casglu eich taliadau Debyd Uniongyrchol y defnyddir y manylion banc hyn. Os ydych am i ad-daliadau TAW gael eu talu'n uniongyrchol i fewn i'ch cyfrif banc, defnyddiwch y gwasanaeth 'Newid manylion cofrestru' er mwyn rhoi eich manylion banc i ni.

Faint o amser i'w ganiatáu: Mae'n rhaid i chi sefydlu eich Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol (DDI) cyn eich bod yn cyflwyno'ch Ffurflen TAW nesaf, ac o leiaf 2 ddiwrnod gwaith y banc cyn bod y Ffurflen TAW yn ddyledus pan fod y dyddiad dyledus yn syrthio ar ddiwrnod gwaith. Er enghraifft, os yw'ch Ffurflen TAW yn ddyledus ar ddydd Mawrth 7 Medi, dau ddiwrnod gwaith y banc cyn hyn yw dydd Gwener 3 Medi.

Os yw dyddiad dyledus eich Ffurflen TAW yn syrthio ar benwythnos neu ŵyl y banc, bydd angen i chi sefydlu eich DDI o leiaf 3 diwrnod gwaith y banc cyn bod y Ffurflen TAW yn ddyledus. Er enghraifft, os yw'ch Ffurflen TAW yn ddyledus ar ddydd Sul 7 Tachwedd, tri diwrnod gwaith y banc cyn hyn yw dydd Mercher 3 Tachwedd.

Os yw eich Ffurflen TAW yn ddyledus mewn llai na 2 neu dri diwrnod gwaith y banc, fel yn yr enghreifftiau uchod, yna ar gyfer y Ffurflen TAW hon yn unig - bydd angen i chi dalu drwy ddull electronig gwahanol.

Diwrnodau gwaith y banc yw dydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau'r banc.

Dangosir dyddiad dyledus eich Ffurflen TAW ar y sgrîn lle y cofnodwch eich ffigurau Ffurflen TAW.

Bydd y dudalen cydnabyddiaeth a ddangosir unwaith eich bod wedi cyflwyno'ch Ffurflen TAW hefyd yn cadarnhau p'un ai bydd y taliad yn cael ei gasglu drwy Ddebyd Uniongyrchol neu os oes angen i chi dalu drwy ddull electronig gwahanol.

Dyddiad y mae'r taliad yn ddyledus: Bydd dewis y dull hwn o dalu yn rhoi mwy o amser i chi dalu eich TAW nag unrhyw ddull arall. Bydd CThEM yn casglu'r taliad yn awtomatig o'ch cyfrif banc enwebedig ar drydydd diwrnod gwaith y banc ar ôl y saith diwrnod calendr ychwanegol a ganiateir ar gyfer cyflwyno eich ffurflen TAW ar-lein.

Bydd dewis y dull hwn o dalu yn rhoi mwy o amser i chi dalu eich TAW nag unrhyw ddull arall. Bydd CThEM yn casglu'r taliad yn awtomatig o'ch cyfrif banc enwebedig ar drydydd diwrnod gwaith y banc ar ôl y saith diwrnod calendr ychwanegol a ganiateir ar gyfer cyflwyno eich Ffurflen TAW ar-lein.

Yr hyn y bydd CThEM yn ei gasglu: Bydd CThEM ond yn casglu'r TAW rydych yn ei datgan sy'n daladwy i Gyllid & Thollau EM ar eich Ffurflen(ni) TAW. Ni chesglir unrhyw swm arall sy'n ddyledus. Os ydych am dalu symiau eraill sy'n ddyledus, er enghraifft cosbau neu log, dilynwch y cysylltiad How to pay VAT, sy'n rhestru dulliau talu eraill.

Yr hyn y bydd CThEM yn ei gasglu: Bydd CThEM ond yn casglu'r TAW rydych yn ei datgan sy'n daladwy i Gyllid & Thollau EM ar eich Ffurflen(ni) TAW. Ni chesglir unrhyw swm arall sy'n ddyledus. Os ydych am dalu symiau eraill sy'n ddyledus, er enghraifft cosbau neu log, dilynwch y cysylltiad How to pay VAT, sy'n rhestru dulliau talu eraill.

Dulliau talu eraill: Er bod yn rhaid i chi dalu TAW a ddangosir ei bod yn ddyledus ar eich Ffurflen TAW ar-lein yn electronig, nid oes yn rhaid i chi dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol. Am restr o ddulliau electronig eraill dilynwch y cysylltiad 'How to pay VAT'.

Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol (AAS): Os ydych yn defnyddio'r AAS, gallwch ond ddefnyddio'r gwasanaeth hwn i dalu unrhyw swm mantoli a ddangosir fel ei fod yn ddyledus ar eich Ffurflen TAW flynyddol ar ddiwedd y flwyddyn. Dilynwch y cysylltiad VAT Notice 732 os oes arnoch angen cyfarwyddyd pellach ynghylch:

Taliadau ar Gyfrif (mae hwn yn effeithio busnesau mawr yn unig): Os oes yn rhaid i chi wneud Taliadau ar Gyfrif ac rydych wedi dewis anfon Ffurflenni TAW chwarterol, ni allwch ddefnyddio'r gwasanaeth Debyd Uniongyrchol hwn.

Dileadau neu newidiadau: Ni allwch ddileu neu newid Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol (DDI) drwy ddefnyddio'r gwasanaeth hwn. Mae angen i chi hysbysu eich banc/cymdeithas adeiladu a fydd yn hysbysu CThEM yn awtomatig am unrhyw newidiadau.

Mae hyn yn cynnwys pan gaiff Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol ei drosglwyddo i fanc neu gymdeithas adeiladu wahanol, neu pan gaiff ei drosglwyddo i gangen wahanol o fewn yr un banc/cymdeithas adeiladu. Bydd CThEM ond yn gallu gwneud newidiadau a hysbyswyd drwy eich banc/cymdeithas adeiladu.